P-05-980 Ymestyn grantiau ar unwaith i fusnesau bach yng Nghymru nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Paul Deverson, ar ôl casglu cyfanswm o 130 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Dylid rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol i ddyfarnu grant rhyddhad ardrethi busnesau bach i fusnesau sy’n talu ardrethi drwy eu rhent, gan roi’r un cymorth iddyn nhw ag a roddir i bob busnes arall.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cyhoeddodd Llywodraeth Geidwadol Lloegr fod busnesau sy’n talu eu hardrethi drwy rent yn cael cam, felly aed i’r afael â hyn drwy roi disgresiwn i awdurdodau lleol ddyfarnu’r grant a helpu i’w hachub. Hyd yma, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod gwneud hyn.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
· Canolbarth a Gorllewin Cymru